Mae tair ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn cynnig ystod eang o gymwysterau drwy eu darpariaethau chweched dosbarth. Mae’r tair ysgol yn gweithio gyda’i gilydd, fel rhan o bartneriaeth BroPlasTaf, i roi cyfle i fyfyrwyr gael mynediad at gyrsiau gan bob un o’r tair ysgol. Mae partneriaeth BroPlasTaf yn gadael i fyfyrwyr astudio yn Gymraeg a’u helpu i fanteisio ar fywyd cymdeithasol amrywiol.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig addysg Gymraeg a dwyieithog mewn meysydd fel:
- peirianneg
- adeiladu;
- gwallt a harddwch, a
- gofal plant.
Mae hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol cyfrwng Cymraeg gyda phartneriaid lleol ar draws y gymuned.
Disgyblion Ôl-16 ag anghenion dysgu ychwanegol
Gall Gwasanaeth Ôl-16 Cyngor Caerdydd gefnogi dysgwyr gyda:
- phontio o’r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16,
- fforwm pontio ADY amlasiantaethol,
- cysylltu â’r Tîm Hyfforddiant Teithio i baratoi pobl ifanc ar gyfer teithio annibynnol,
- Rhaglenni astudio ôl-16,
- pontio at lwybrau cyflogaeth â chymorth,
- llwybrau at raglenni i mewn i waith,
- darpariaethau i ddiwallu anghenion ADY.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ddwyieithog. Mae’r cymorth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Darganfyddwch fwy am y cymorth ADY ôl-16.
Cyfleoedd i barhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, cyflenwyr prentisiaid, a chyflogwyr i greu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn Gymraeg.
Mae’r coleg yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio eu Cymraeg. Eu nod yw rhoi’r hyder i bawb ddefnyddio’u Cymraeg wrth hyfforddi, astudio a gweithio.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn helpu myfyrwyr i gael mynediad at y cyrsiau gorau i barhau i astudio yn y Gymraeg.
Mae’r coleg hefyd yn cynnig ysgoloriaethau. Ewch i Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ragor o wybodaeth.
SEFYDLU MEDR
Ar 1 Awst 2024 sefydlwyd Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd – neu MEDR – gyda chyfrifoldeb dros gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, sy’n cynnwys addysg bellach ac uwch, ymchwil, dysgu oedolion yn y gymuned, prentisiaethau a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.
I ddarllen mwy am MEDR ewch i Hafan – Medr
Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyrwyddo Addysg Gymraeg y De-ddwyrain sydd yn gyfrifol am Cymraeg i Bawb – yr ymgyrch i hyrwyddo addysg Gymraeg.