Mae Caerdydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd i oedolion sy’n siarad Cymraeg neu sy’n dysgu.
Gobeithiwn y bydd byw yma yn eich ysbrydoli i:
- ddysgu’r iaith, a
- dysgu mwy am ddiwylliant a hanes Cymru.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn helpu pobl i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg. Mae gennym Ganolfan Gymraeg leol yma yng Nghaerdydd.
Gweithgareddau a chyfleoedd
Dysgwch am rai o’r gweithgareddau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd. Os ydych yn gwybod am fwy, mae croeso i chi gysylltu.
Cadwch yn heini ac yn iach gyda’r clwb chwaraeon Cymraeg.
- Chwarae rygbi gyda Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
- Dysgu chwarae rygbi gyda Cricc Caerdydd
- Chwarae pêl-droed, hoci a phêl-rwyd gyda Clwb Cymric
- Gwneud ioga gyda Menter Caerdydd
- Gwneud pilates gyda Menter Caerdydd
- Chwarae pêl feddal gyda Teirw Taf
- Chwarae pêl-droed yn Gôl
Mae gan Gaerdydd dreftadaeth gerddorol gyfoethog ac mae nifer y corau yn y ddinas yn tyfu’n barhaus.
- Côr Hen Nodiant
- Côr Meibion Taf – mae’r côr hwn ar gyfer lleisiau gwrywaidd
- Côr Canna – mae’r côr hwn ar gyfer lleisiau benywaidd
- Côr Caerdydd
- Côrdydd
- Côr CF1
- Côr Y Waun Ddyfal
- Bechgyn Bro Taf – mae’r côr hwn ar gyfer lleisiau gwrywaidd
Mae gan y ddinas nifer o leoliadau lle gallwch wrando ar gerddoriaeth Gymraeg.
Mae gan Gaerdydd sawl lle i addoli yn Gymraeg.
- Capel Salem, Treganna
- Tabernacl Caerdydd, Yr Ais
- Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd, Cathays
- Eglwys Fethodistaidd Bethel, Rhiwbeina
- Bethlehem, Gwaelod y Garth
- Eglwys y Crwys, Y Rhath
- Minny Street, Cathays
- Eglwys Gymraeg Dewi Sant, canol y ddinas
- Ebeneser, gwahanol leoliadau yn y ddinas
Gallwch ddod o hyd i nifer o siopau Cymraeg yng Nghaerdydd. Maen nhw’n gwerthu teganau, gemau, nwyddau cartref ac anrhegion Cymraeg.
Gweld Y Dinesydd.
Angen arbenigwr sy’n gallu siarad Cymraeg?
Mae Ffônlyfr – Menter Caerdydd yn gyfeiriadur o bobl sy’n cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft:
- plymwyr,
- garddwyr,
- cyfreithwyr,
- gwarchodwyr plant,
- hyfforddwyr personol,
- diddanwyr, a
- tiwtoriaid.
Mae gan gyfleoedd Cymraeg Caerdydd gynnig i bob grŵp oedran
Gallwch ddarganfod yr hyn sy’n digwydd yn Gymraeg yng Nghaerdydd drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd.
Gallwch gael gwybod mwy am weithgareddau a digwyddiadau Cymraeg drwy ymuno â grŵp Calendr Caerdydd ar Facebook.